Cyflwyniad
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn ystyried cyflwyno ardoll ymwelwyr ar gyfer yr ynys.
Mae'r ardoll ymwelwyr yn dâl ychwanegol bach y gallwch ei dalu wrth aros mewn llety ymwelwyr.
[Defnyddiwyd y term 'dâl ychwanegol bach' yn yr holiadur hwn yn seiliedig ar ganllawiau gan Lywodraeth Cymru. Ystyrir bod hyn bellach yn oddrychol ac mae bellach wedi'i ddileu a'i ddisodli gan y term 'tâl ychwanegol']
Byddai'r arian a godir o'r ardoll yn cael ei ddefnyddio i wella twristiaeth leol, i gynnal cyfleusterau a seilwaith lleol, ac i reoli effaith ymwelwyr â'r ardal.
Bwriad yr arolwg hwn yw casglu barn preswylwyr, busnesau, sefydliadau cymunedol ac ymwelwyr ar yr egwyddor o ardoll, sut y gallai weithredu, a sut y dylid defnyddio unrhyw incwm a godir.
Dylai'r arolwg gymryd tua 10 i 15 munud i'w gwblhau.