Yn yr holiadur yma, fe welwch yr ymadroddion 'llety dros dro', 'llety brys', 'tŷ amlfeddiannaeth (HMO)', ‘llety â chefnogaeth tymor byr’, 'atal yn gynnar' a 'cefnogaeth ar wasgar’.

Darllenwch y diffiniadau cyn ateb yr holiadur.

Llety dros dro

Llety Dros Dro yw tai a ddarperir i unigolion neu aelwydydd sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, tra bod trefniant mwy parhaol yn cael ei wneud. Ar gyfer yr holiadur yma, mae 'llety dros dro' yn cyfeirio at unedau ar brydles hirdymor sydd fel arfer o natur hunan-gynhwysol ac fel arfer wedi'u dodrefnu'n llawn.

Llety brys

Mae Llety Brys yn fath arall o dai a ddarperir i unigolion neu aelwydydd sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, tra bod trefniant mwy parhaol yn cael ei wneud. Mae'r rhain fel arfer yn llety nad ydynt yn hunan-gynhwysol lle gall unigolyn neu aelwyd rannu rhai cyfleusterau fel cegin a/neu gyfleusterau ymolchi/toiled. Fel arfer maen nhw’n sefydliadau fel Gwely a Brecwast, Gwesty, Tŷ amlfeddiannaeth (HMO) ac ati.

Tŷ amlfeddiannaeth (HMO)

Mae eiddo yn cael ei ystyried yn HMO os yw'n bodloni unrhyw un o'r canlynol: Mae'n cael ei ddefnyddio gan dri neu fwy o bobl heb fod o'r un aelwyd a / neu fod y preswylwyr yma’n rhannu cyfleusterau sylfaenol, fel cegin, ystafell ymolchi, neu doiled. Gall yr eiddo fod yn dŷ neu'n fflat.

Llety â chefnogaeth tymor byr

Llety â chefnogaeth yw lle mae pobl yn byw mewn eiddo dynodedig o dan amodau trwydded neu fel deiliad contract ond hefyd yn cael rhywfaint o gymorth i fyw yno. Gallech fod yn byw mewn fflat ar eich pen eich hun, yn byw mewn tŷ a rennir, neu’n byw mewn rhwydwaith o fflatiau fel hostel neu loches lle mae pawb yn cael cymorth. Nid yw'r llety yn barhaol. Mae'n llety tymor byr tra bod unigolion neu deuluoedd yn cael eu cefnogi i ddod o hyd i dai sefydlog hirdymor, a symud iddynt.

Atal yn gynnar

Mae atal yn gynnar yng nghyd-destun cymorth tai yn golygu cymryd camau cyn gynted â phosibl i atal problemau tai rhag gwaethygu i fod yn sefyllfa o ddigartrefedd neu argyfwng. Mae'n canolbwyntio ar nodi’r risgiau’n gynnar, cynnig cyngor prydlon, a darparu cymorth ymarferol fel y gall pobl aros yn ddiogel yn eu tai.

Cefnogaeth ar wasgar

Mae cefnogaeth ar wasgar yn fath o gymorth hyblyg sy'n gysylltiedig â thai i bobl dros 16 oed i gael gafael ar eu llety eu hunain, ei gynnal a'i reoli. Gellir ei ddarparu ar draws pob deiliadaeth dai ac felly gellir ei dderbyn os ydych chi'n byw mewn llety sy'n eiddo i'r Cyngor neu Gymdeithas Tai, neu os ydych chi'n rhentu gan landlord preifat neu os ydych chi'n berchennog tŷ ac angen cymorth i fyw mor annibynnol â phosibl mewn unrhyw un o'r mathau yma o eiddo. Gellir ei ddarparu hefyd tra bod unigolyn neu aelwyd wedi'i leoli mewn llety dros dro neu frys ac yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, i’w cefnogi tra bod trefniant mwy parhaol yn cael ei ystyried.