Cefndir

 
Rydym yn gwahodd unigolion angerddol, busnesau a sefydliadau sydd â diddordeb yn economi ymwelwyr Ynys Môn i fynegi eu diddordeb mewn dod yn rhan o Grŵp Partneriaeth Cyrchfan Ynys Môn. Nod y fenter gydweithredol hon yw llunio dyfodol twristiaeth adfywiol ar yr ynys drwy ddod â gwybodaeth leol, arbenigedd a syniadau arloesol ynghyd i gefnogi twf cynaliadwy, gwella profiadau ymwelwyr a chryfhau gwydnwch y sector.

 

Am fwy o wybodaeth am dwristiaeth gynaliadwy a'r weledigaeth ar gyfer Ynys Môn, gweler y Cynllun Rheoli Cyrchfan Ynys Môn 2023 i 2028 (bydd y ddolen hon yn agor tab newydd yn eich porwr).

 

Os oes gennych chi brofiad perthnasol mewn twristiaeth, lletygarwch, treftadaeth, diwylliant, gweithgareddau awyr agored, marchnata, neu ymgysylltu cymunedol - ac ymrwymiad i lwyddiant hirdymor Ynys Môn fel cyrchfan - byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

 

Cwblhewch y ffurflen isod i gofrestru eich diddordeb ac amlinellu eich profiad, meysydd arbenigedd, a'r hyn yr ydych yn teimlo y gallech ei gyfrannu at y bartneriaeth. Er mwyn sicrhau cynrychiolaeth gytbwys ar draws pob sector, mae lleoedd yn gyfyngedig a byddant yn cael eu dyrannu'n gyfartal ymhlith grwpiau rhanddeiliaid allweddol.